EB 18

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

Y Bil Addysg (Cymru): Cyfnod 1

 

Ymateb gan : Afasic Cymru

 

Ynglŷn ag Afasic Cymru

 

Afasic yw elusen y DU sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, gan weithio tuag at eu cynnwys yn y gymdeithas a chefnogi eu rhieni a'u gofalwyr.

 

Mae Afasic yn sefydliad aelodau sy'n dathlu 45 mlynedd eleni. Mae ein haelodau yn cynnwys rhieni, pobl ifanc ag anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu, gweithwyr proffesiynol ac eraill sy'n ein cefnogi. Cafodd Afasic Cymru ei sefydlu yn sgil datganoli a gwnaeth ddathlu deng mlynedd y llynedd.

 

Ein gweledigaeth yw un o gymdeithas sy'n dathlu 'cyfathrebu' fel hawl ddynol sylfaenol, a lle mae plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu potensial a chwarae rhan lawn ynddi.

 

Gwybodaeth am anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu

 

Mae lleferydd, iaith a chyfathrebu yn sgiliau sylfaenol mewn bywyd. Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ategu llythrennedd, dysgu yn yr ysgol ac yn y coleg, cymdeithasu a gwneud ffrindiau, ac maent yn hanfodol o ran rhagolygon gwaith a deall a rheoli emosiynau neu deimladau.

 

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu. Mae rhai o'u hanghenion cyfathrebu yn rhai dros dro ac mae eraill yn fwy parhaus. Mae astudiaethau ledled y DU wedi dangos bod gan tua 10% o blant anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu parhaus a all fod yn brif anhawster plentyn neu fod yn gysylltiedig â chyflyrau eraill fel awtistiaeth.

 

Mae'n bosibl y bydd gan blentyn neu berson ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yr anawsterau canlynol:

·         deall iaith

·         dysgu a chofio geiriau, a rhoi geiriau gyda'i gilydd i ffurfio brawddegau

·         siarad yn glir

·         defnyddio iaith briodol mewn cyd-destun

 

 

Gall fod gan blant neu bobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu rai o'r anawsterau uchod neu bob un ohonynt; mae pawb yn wahanol.

 

Gall fod yn anodd adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag anawsterau cyfathrebu, y gall pobl weld plant neu bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd darllen, sy'n ymddwyn yn wael, neu sy'n ei chael hi'n anodd dysgu neu gymdeithasu ag eraill. Gall rhai plant a phobl ifanc encilio neu deimlo'n ynysig.

 

Efallai mai dim ond yn yr ysgol uwchradd y daw anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu i'r golwg oherwydd gofynion cymdeithasol ac academaidd cynyddol. Yn achos rhai pobl ifanc, ymddengys fod eu hanawsterau yn gwella yn yr ysgol gynradd ond yna maent yn ailymddangos unwaith eto yn yr ysgol uwchradd.

 

Cyd-destun yr ymateb hwn

Mae Afasic Cymru yn ymateb i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth ar gyfer asesu anghenion addysg a hyfforddiant ac Addysg Pellach arbenigol Ôl-16, yn cynnwys rhwystrau o ran gweithredu. Mae'r ymateb hwn yn seiliedig ar ein profiad o weithio gyda phobl ifanc a'u teuluoedd a'n gwybodaeth am yr ymchwil i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

 

Asesiadau gorfodol a dewisol o anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16

 

Mae Afasic Cymru yn cydnabod mewn egwyddor, y gall trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwn i awdurdodau lleol wella'r dull o nodi ac asesu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ogystal â gwella'r trefniadau pontio cyfredol.

 

Yn sgil ein profiad o weithio gyda theuluoedd a darparu hyfforddiant i athrawon sy'n gweithio ym mhob cyfnod allweddol yn cynnwys darpariaeth ôl-16, gall fod yn anodd sylweddoli bod gan berson ifanc anghenion iaith a chyfathrebu sylfaenol oherwydd gall yr anghenion hyn ymddangos fel nifer o anawsterau eraill ee: ymddygiad neu lythrenedd.

 

Dangosodd astudiaeth o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant fod gan dros hanner (54%) yr unigolion a wnaeth gwblhau asesiadau therapi lleferydd ac iaith anabledd cyfathrebu difrifol. Dim ond 21% a oedd wedi cael eu hatgyfeirio'n flaenorol am therapi lleferydd ac iaith (Lanz, 2009). Fel rhan o'i thystiolaeth lafar i'r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol, tynnodd yr Athro Karen Bryan sylw at y ffaith bod ymchwil wedi dangos yn gyson fod gan o leiaf 60% o droseddwyr ifanc anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ond dim ond mewn 5% o achosion y cawsant eu nodi cyn iddynt ddechrau troseddu (Bryan, 2004).

 

Mae Afasic Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg yn derbyn hyfforddiant er mwyn cefnogi eu hymwybyddiaeth o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a'u gallu i'w nodi dros bob ystod oedran. Mae angen gwirioneddol i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu fod yn rhan orfodol o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus. Canfu gwaith ymchwil The Communication Trust yn eu rhaglen Talk of the Town nad oedd 48% o blant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cael eu nodi, er eu bod yn cael eu dysgu gan staff ymrwymedig a phrofiadol.

 

Unwaith yr oedd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael eu hadnabod a'u nodi, dywed teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ôl-16 bod sicrhau asesiad priodol yn anodd. Os na chaiff anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu eu hasesu'n gywir, nid yw'r person ifanc yn debygol o dderbyn y cymorth priodol, wedi'i dargedu, sydd ei angen arnynt i chwarae rhan lawn a manteisio ar addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn bwysig oherwydd effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o ran llythrennedd, cyrhaeddiad, iechyd meddwl, troseddau ieuenctid a chyflogaeth.

 

Mae Afasic Cymru yn argymell, o ystyried cyffredinrwydd ac effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, bod angen i asesiadau awdurdod lleol gynnwys gwybodaeth er mwyn sgrinio anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn effeithiol.

 

Hyfforddi staff er mwyn nodi, asesu a darparu yn briodol

I ddyfynu enghraifft o'n profiad o ddarparu hyfforddiant i staff sy'n gweithio mewn sefydliad addysg bellach mawr yng Nghymru. Nid oedd y staff erioed wedi cael hyfforddiant anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a datgelodd gwerthusiadau dilynol flwyddyn yn ddiweddarach bod hyn wedi newid eu hymarferion o ran y ffordd yr oeddynt yn nodi, asesu a dysgu a bu manteision pendant i'r bobl ifanc dan sylw. Mae enghreifftiau o werthusiadau dilynol yn dilyn hyfforddiant lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cynnwys:

"Ymddengys bod myfyrwyr yn ymgysylltu mwy ac yn cymryd mwy o ran mewn sesiynau."

"Rhagor o ryngweithio."

"Mae'n ymddangos eu bod yn gallu mynd ymlaen â'u gwaith yn well sy'n golygu llawer mwy o waith anibynnol."

 

Ariannu

Rydym yn pryderu gall y cynnig i'r awdurdod lleol fod yn gyfrifol am asesu'r angen a'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau olygu gwrthdaro buddiannau. Hefyd, er mwyn sicrhau'r asesiad a'r ddarpariaeth â'r adnoddau priodol gorau posib, ymddengys yn hanfodol bod yr arian yn cael ei glustnodi.

 

Mae rhieni wedi dweud wrthym am eu pryderon y caiff mynediad amserol i ddarpariaeth arbenigol ei rwystro oherwydd y cynigion i beidio â chlustnodi arian ac mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw asesu a nodi darpariaeth.

 

Mae Afasic Cymru yn siomedig ac yn pryderu na fydd cludiant i leoliad lle caiff addysgu neu hyfforddiant ei ddarparu neu oddi yno ei drin fel rhan o ddarpariaeth yr addysg neu'r hyfforddiant hwnnw. Mae cyswllt amlwg rhwng tlodi ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Rydym o'r farn y byddai hyn yn cosbi teuluoedd a phobl ifanc y mae angen y cymorth fwyaf arnynt, ac yn arbennig rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

 

Hawl i Apelio

Mae Afasic Cymru yn falch o weld bod yn Bil yn cynnwys hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru o ran penderfyniad gan awdurdod lleol i beidio â sicrhau asesiad anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16, disgrifiad o'r asesiad hwnnw a nodi darpariaeth. Credwn bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i deuluoedd y cânt y cymorth gorau posibl sy'n canolbwyntio ar y person, wedi'u llywio gan anghenion.

 

Hoffem weld bod anghenion pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddiffiniadau o anghenion dysgu er mwyn diogelu eu cyfnod pontio i annibyniaeth, gwella eu mynediad i addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill megis tai.

 

 

 

 

Cyfeiriadau

A Generation Adrift (Ionawr 2013) gan yr Ymddiriedolaeth Gyfathrebu.

https://www.thecommunicationtrust.org.uk/resources/resources/resources-for-practitioners/a-generation-adrift.aspx

 

Bryan, K. (2004) Prevalence of the speech and language difficulties in young offenders. International Journal of Language and Communication Disorders, 39, 391-400.

 

Lanz, R. (2009) Speech and Language Therapy with the Milton Keynes Youth Offending Team, a four month project.

 

Lee, W. (2013) Talk of the Town evaluation report. The Communication Trust.